Dywed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo.