Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 25:11-17 beibl.net 2015 (BNET)

11. A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

12. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’

13. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman i Dedan yn y de.

14. Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’”

15. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau ei dinistrio hi.

16. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir.

17. Dw i'n mynd i ddial arnyn nhw a'u cosbi nhw'n wyllt. A pan fydda i'n dial, byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 25