Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 24:18-27 beibl.net 2015 (BNET)

18. Y noson honno buodd fy ngwraig farw. Ond y bore wedyn dyma fi'n gwneud beth ddywedwyd wrtho i, a mynd allan i bregethu.

19. A dyma'r bobl yn gofyn i mi, “Beth ydy ystyr hyn? Pam wyt fel yma?”

20. A dyma fi'n dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi:

21. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml – ie, y deml sy'n gwneud i chi deimlo mor siŵr ohonoch chi'ch hunain, yr un dych chi wedi gwirioni'n lân arni. Bydd y plant gafodd eu gadael ar ôl yn Jwda yn cael eu lladd.

22. Rhaid i chi wneud yr un fath â fi. Peidio cuddio hanner isaf yr wyneb na derbyn bwyd gan bobl sydd eisiau cydymdeimlo.

23. Gwisgo twrban ar eich pennau a sandalau ar eich traed. Peidio galaru na wylo. Ond byddwch chi'n gwywo o'ch mewn, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.

24. Dw i'n defnyddio Eseciel fel darlun i ddysgu gwers i chi. Rhaid i chi wneud yr un fath. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.’

25. “A ti, ddyn, dyma fydd yn digwydd i ti ar y diwrnod y bydda i'n cymryd y ddinas sy'n eu gwneud nhw mor hapus oddi arnyn nhw, a'r deml maen nhw a'u plant wedi gwirioni'n lân arni:

26. Ar y diwrnod hwnnw bydd ffoadur fydd wedi llwyddo i ddianc yn dod atat ti i ddweud beth ddigwyddodd.

27. A byddi di'n cael siarad yn rhydd eto. Byddi'n siarad gyda'r un wnaeth ddianc, a ddim yn gorfod cadw'n dawel ddim mwy. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel, iddyn nhw ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 24