Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 24:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi'r nawfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r degfed mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem.

3. Rhanna'r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Rho'r crochan ar y tân,a'i lenwi gyda dŵr.

4. Rho ddarnau o gig ynddo,y darnau gorau – y goes a'r ysgwydd.Ei lenwi gyda'r esgyrn da

5. o'r anifeiliaid gorau.Rho bentwr o goed tân oddi tano,a berwi'r cig a'i goginioa'r esgyrn yn dal ynddo.

6. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed – y crochan sy'n llawn budreddi – budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un. Sdim ots am y drefn.

7. Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu.

8. Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni hi!

9. “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed! Dw i'n mynd i gasglu pentwr o goed;

10. digon o goed i wneud tanllwyth o dân! Coginio'r cig yn dda gyda digon o sbeisys. Wedyn gwagio'r crochan a llosgi'r esgyrn.

11. Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi'n chwilboeth, yr amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi i ffwrdd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 24