44. A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw'n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol!
45. Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi'r gosb maen nhw'n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna'n hollol maen nhw'n euog o'i wneud.
46. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dewch â byddin yn eu herbyn nhw i greu dychryn ac i ddwyn oddi arnyn nhw!
47. Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw, ac yn eu taro nhw i lawr gyda chleddyfau. Bydd yn lladd eu plant nhw ac yn llosgi eu tai!
48. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a peidio gwneud yr un peth.
49. Byddan nhw'n talu'n ôl i ti am y ffordd rwyt ti wedi ymddwyn. Byddi'n cael dy gosbi am bechu gyda dy eilun-dduwiau. A byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.”