Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:27-36 beibl.net 2015 (BNET)

27. Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto!

28. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i'n mynd i dy roi di yn nwylo'r bobl hynny rwyt ti'n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw.

29. Byddan nhw'n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di'n noeth. Bydd pawb yn dy weld di'n noeth, fel pan roeddet ti'n byw'n anweddus ac yn puteinio.

30. Bydd hyn i gyd yn digwydd am dy fod ti wedi puteino gyda gwledydd paganaidd a llygru dy hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw.

31. Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti.

32. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer –cwpan fawr, ddofn,yn llawn i'r ymylon(a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben.)

33. Byddi'n hollol feddw ac yn y felan:Mae cwpan dy chwaer, Samaria,yn gwpan dychryn a dinistr.

34. Byddi'n yfed pob diferyncyn ei falu'n ddarnauac yna rhwygo dy fronnau.“Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.

35. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a troi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.”

36. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dywed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod!

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23