Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:24-29 beibl.net 2015 (BNET)

24. Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'i tariannau bach a mawr ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw dy gosbi di yn ôl eu safonau eu hunain.

25. “Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw.

26. Byddan nhw'n tynnu dillad pobl oddi arnyn nhw, ac yn dwyn eu tlysau hardd.

27. Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto!

28. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i'n mynd i dy roi di yn nwylo'r bobl hynny rwyt ti'n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw.

29. Byddan nhw'n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di'n noeth. Bydd pawb yn dy weld di'n noeth, fel pan roeddet ti'n byw'n anweddus ac yn puteinio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23