Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:10-24 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.

11. “Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau!

12. Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd.

13. Ro'n i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer.

14. “Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi eu cerfio'n goch llachar ar waliau.

15. Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a twrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea.

16. Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati.

17. Felly dyma'r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i'r gwely gyda hi. Dyma nhw'n ei halogi a'i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati.

18. “A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Roeddwn i wedi ymateb yr un fath i'w chwaer.

19. Ond doedd hi'n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi'n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi'n eneth ifanc!

20. Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni.

21. Dyna sut roedd hi'n cofio'i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau.

22. “Felly, Oholiba, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wneud i'r cariadon wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw'n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad –

23. y Babiloniaid a pobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a'r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol – i gyd yn y cafalri.

24. Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'i tariannau bach a mawr ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw dy gosbi di yn ôl eu safonau eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23