Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i'r un fam.

3. Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff.

4. Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Roeddwn i wedi eu priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.)

5. “Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon – swyddogion milwrol Asyria

6. yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri.

7. Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw.

8. Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.

9. Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau.

10. Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.

11. “Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau!

12. Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd.

13. Ro'n i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer.

14. “Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi eu cerfio'n goch llachar ar waliau.

15. Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a twrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23