Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 22:2-21 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Wel ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wnei di farnu dinas y tywallt gwaed? Gwna iddi wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau hollol ffiaidd!

3. Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O ddinas, mae cymaint o waed wedi ei dywallt ynot ti, mae dydd barn wedi dod i ti. Mae cymaint o eilun-dduwiau ynot ti, rwyt ti wedi llygru dy hun yn llwyr.

4. Ti'n euog o lofruddiaeth ac addoli eilun-dduwiau. Ti wedi gwneud i dy ddiwedd ddod yn agos. Dw i'n mynd i dy wneud di'n destun sbort i'r gwledydd o dy gwmpas. Byddi di'n jôc drwy'r byd i gyd.

5. Bydd pawb ym mhobman yn gwneud hwyl ar dy ben. Byddi'n enwog am dy ddrygioni a dy helyntion.

6. “‘“Mae arweinwyr Israel sy'n byw ynot ti wedi defnyddio'i hawdurdod i dywallt gwaed.

7. Mae yna bobl ynot ti sy'n dirmygu tad a mam, yn gormesu mewnfudwyr, ac yn cam-drin plant amddifad a gwragedd gweddwon.

8. Mae dy bobl wedi trin y pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi yn ysgafn, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i chi!

9. Mae rhai ynot ti wedi dweud celwydd a hel clecs am bobl ac yn gyfrifol am dywallt eu gwaed. Mae eraill yn bwyta aberthau paganaidd ar y mynyddoedd, ac yn gwneud pethau hollol ffiaidd.

10. Mae yna rai sy'n cael rhyw gyda gwraig eu tad, neu'n gorfodi gwragedd sy'n diodde o'r misglwyf i gael rhyw gyda nhw.

11. Mae un yn cam-drin gwraig ei gymydog yn rhywiol; ac un arall yn gorfodi ei ferch-yng-nghyfraith i gael rhyw, neu'n treisio ei chwaer neu ei hanner chwaer.

12. Mae yna rai sy'n derbyn tâl i lofruddio. Dych chi'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciadau, ac yn gorfodi arian oddi ar bobl. Dych chi wedi fy anghofio i,” meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.

13. “‘“Dw i'n ysgwyd fy nwrn arnoch chi. Mae'r holl elwa anonest yma, a'r holl dywallt gwaed yn eich plith chi yn gwneud i mi wylltio.

14. Cawn weld faint o blwc sydd gynnoch chi! Tybed pa mor ddewr fyddwch chi pan fydda i'n delio gyda chi? Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!

15. Bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd, ac yn rhoi stop ar y cwbl.

16. Dw i'n fodlon i'm henw da i gael ei sarhau gan y cenhedloedd o'ch achos chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

18. “Ddyn, mae pobl Israel fel yr amhuredd sydd ar ôl pan mae metel yn cael ei goethi mewn ffwrnais! Maen nhw fel y slag diwerth sy'n cael ei adael pan mae copr, tin, haearn a phlwm yn cael ei goethi.

19. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi'n ddim byd ond amhuredd dw i'n mynd i'ch casglu chi at eich gilydd i ganol Jerwsalem.

20. Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i'ch casglu chi yno a'ch toddi chi, yn union fel mae arian, copr, haearn, plwm a tin yn cael eu rhoi mewn ffwrnais i'w toddi yn y tân.

21. Dw i'n mynd i'ch casglu chi yno, a'ch toddi chi gyda tân fy ffyrnigrwydd!

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 22