Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 22:15-31 beibl.net 2015 (BNET)

15. Bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd, ac yn rhoi stop ar y cwbl.

16. Dw i'n fodlon i'm henw da i gael ei sarhau gan y cenhedloedd o'ch achos chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

18. “Ddyn, mae pobl Israel fel yr amhuredd sydd ar ôl pan mae metel yn cael ei goethi mewn ffwrnais! Maen nhw fel y slag diwerth sy'n cael ei adael pan mae copr, tin, haearn a phlwm yn cael ei goethi.

19. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi'n ddim byd ond amhuredd dw i'n mynd i'ch casglu chi at eich gilydd i ganol Jerwsalem.

20. Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i'ch casglu chi yno a'ch toddi chi, yn union fel mae arian, copr, haearn, plwm a tin yn cael eu rhoi mewn ffwrnais i'w toddi yn y tân.

21. Dw i'n mynd i'ch casglu chi yno, a'ch toddi chi gyda tân fy ffyrnigrwydd!

22. Byddwch chi'n cael eich toddi fel arian mewn ffwrnais. Byddwch chi'n sylweddoli fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tywallt fy llid ffyrnig arnoch chi!’”

23. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

24. “Ddyn, dywed wrth Jerwsalem, ‘Pan fydda i'n dangos fy llid fydd dim glaw na hyd yn oed cawod ysgafn yn disgyn ar dy dir.’

25. Mae ei harweinwyr yn cynllwynio fel llewod sy'n rhuo wrth rwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw'n dwyn arian a phopeth gwerthfawr oddi ar bobl, ac yn gadael llawer o wragedd yn weddwon.

26. Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i!

27. Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn rheibio – yn tywallt gwaed a dinistrio bywydau – er mwyn elw anonest.

28. Mae ei phroffwydi yn honni eu bod wedi cael gweledigaeth neu neges gan Dduw pan nad ydyn nhw go iawn. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud,’ medden nhw. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud y fath beth! Maen nhw'n meddwl fod peintio drosti yn mynd i wneud wal simsan yn saff!

29. Mae pobl y wlad wedi bod yn gorthrymu'r bobl dlawd sydd mewn angen, a dwyn oddi arnyn nhw. Maen nhw wedi gormesu mewnfudwyr a'u trin nhw'n gwbl annheg.

30. “Dyma fi'n edrych i weld os oedd rhywun fyddai'n trwsio'r wal ac yn sefyll yn y bwlch, fel bod dim rhaid i mi ddinistrio'r ddinas. Ond doedd neb.

31. Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, a'u dinistrio nhw gyda tân fy ffyrnigrwydd. Dw i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 22