1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2. “Wel ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wnei di farnu dinas y tywallt gwaed? Gwna iddi wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau hollol ffiaidd!
3. Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O ddinas, mae cymaint o waed wedi ei dywallt ynot ti, mae dydd barn wedi dod i ti. Mae cymaint o eilun-dduwiau ynot ti, rwyt ti wedi llygru dy hun yn llwyr.
4. Ti'n euog o lofruddiaeth ac addoli eilun-dduwiau. Ti wedi gwneud i dy ddiwedd ddod yn agos. Dw i'n mynd i dy wneud di'n destun sbort i'r gwledydd o dy gwmpas. Byddi di'n jôc drwy'r byd i gyd.
5. Bydd pawb ym mhobman yn gwneud hwyl ar dy ben. Byddi'n enwog am dy ddrygioni a dy helyntion.
6. “‘“Mae arweinwyr Israel sy'n byw ynot ti wedi defnyddio'i hawdurdod i dywallt gwaed.
7. Mae yna bobl ynot ti sy'n dirmygu tad a mam, yn gormesu mewnfudwyr, ac yn cam-drin plant amddifad a gwragedd gweddwon.
8. Mae dy bobl wedi trin y pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi yn ysgafn, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i chi!
9. Mae rhai ynot ti wedi dweud celwydd a hel clecs am bobl ac yn gyfrifol am dywallt eu gwaed. Mae eraill yn bwyta aberthau paganaidd ar y mynyddoedd, ac yn gwneud pethau hollol ffiaidd.
10. Mae yna rai sy'n cael rhyw gyda gwraig eu tad, neu'n gorfodi gwragedd sy'n diodde o'r misglwyf i gael rhyw gyda nhw.
11. Mae un yn cam-drin gwraig ei gymydog yn rhywiol; ac un arall yn gorfodi ei ferch-yng-nghyfraith i gael rhyw, neu'n treisio ei chwaer neu ei hanner chwaer.