Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:3-18 beibl.net 2015 (BNET)

3. a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg!

4. Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd!

5. Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’

6. “Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen.

7. Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’”

8. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

9. “Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:Cleddyf! Cleddyf!Wedi ei hogi a'i sgleinio.

10. Wedi ei hogi i ladd,ac yn fflachio fel mellten.Pwy sy'n chwerthin nawr?Mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthoda phob ffon debyg iddi!

11. Mae'r cleddyf wedi ei rhoi i'w sgleinioa'i dal yng nghledr y llaw.Mae wedi ei hogi a'i glanhaui'w rhoi yn llaw y lladdwr.

12. Gwaedda, ddyn, galara!Mae'r cleddyf i daro fy mhobl,ac arweinwyr Israel i gyd!Bydd y galar yn llethol!

13. Ydy, mae'r profi'n dod!Pa obaith syddpan mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod?’meddai'r ARGLWYDD.

14. Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn,ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed,‘Bydd y cleddyf yn taroddwywaith … na, tair!Cleddyf i ladd!Bydd cleddyf y lladdfa fawryn closio o bob cyfeiriad!

15. Bydd pawb yn wan gan ddychryna nifer fawr yn baglu a syrthio.Mae cleddyf y lladdfa fawryn disgwyl wrth y giatiau i gyd.O! Mae'n fflachio fel melltenwrth gael ei chwifio i ladd!

16. Ergyd i'r dde, a slaes i'r chwith!Mae'n taro â'i min ble bynnag y myn.

17. Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrna dangos faint dw i wedi gwylltio.Yr ARGLWYDD ydw i,a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”

18. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21