Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Roeddwn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft.

10. “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a'i harwain nhw i'r anialwch.

11. Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai'r rhai fyddai'n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn.

12. Dyma fi'n rhoi ‛Sabothau‛ iddyn nhw hefyd, i'w hatgoffa nhw o'r berthynas rhyngon ni. Roeddwn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi eu gwneud nhw'n wahanol, yn bobl sbesial i mi.

13. “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle; eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch!

14. Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft.

15. Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i'n eu harwain nhw i'r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw – tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd!

16. Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel ron i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod!

17. Ac eto, bod yn garedig atyn nhw wnes i. Wnes i ddim eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch.

18. “‘Dyma fi'n dweud wrth eu plant yn yr anialwch: “Peidiwch byw yr un fath â'ch rhieni. Peidiwch dilyn eu ffyrdd nhw, a llygru eich hunain yn addoli eu heilun-dduwiau.

19. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Dw i eisiau i chi fyw fel dw i'n dweud a chadw fy rheolau i.

20. A dw i eisiau i chi gadw'r dyddiau Saboth yn sbesial, i'ch atgoffa chi o'r berthynas sydd rhyngon ni. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

21. “‘Ond dyma'r plant yn gwrthryfela yn fy erbyn i hefyd. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn.) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle, yn yr anialwch.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20