Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:32-43 beibl.net 2015 (BNET)

32. “‘“Dŷn ni'n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o'n cwmpas ni sy'n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd.

33. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i'n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol.

34. Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol.

35. Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno.

36. Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

37. ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi yn ei dro wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni.

38. Bydda i'n cael gwared â phawb sy'n gwrthryfela a tynnu'n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o'r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

39. “‘Bobl Israel, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi – ewch i addoli'ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda'ch rhoddion a'ch eilunod.

40. Dim ond ar y mynydd dw i wedi ei gysegru – sef mynydd uchel Israel – y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi.

41. Pan fydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd a'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru, cewch eich derbyn gen i fel arogl hyfryd eich aberthau. A bydd pobl y gwledydd yn gweld mai fi ydy'r Duw sanctaidd sydd gyda chi.

42. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, pan fydda i'n gadael i chi fynd yn ôl i wlad Israel, sef y wlad wnes i addo ei rhoi i'ch hynafiaid.

43. Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn gweld beth wnaethoch chi i lygru'ch hunain. Bydd gynnoch chi gywilydd eich bod wedi gwneud pethau mor ofnadwy.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20