Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:2-14 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

3. “Ddyn, dywed wrth arweinwyr Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi eisiau i mi roi arweiniad i chi, ydych chi? Wel, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gewch chi ddim arweiniad gen i, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’

4. “Ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn, a'u cael nhw i wynebu'r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid?

5. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a cyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.”

6. Dyma fi'n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a'u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi ei dewis yn arbennig ar eu cyfer. Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd!

7. Dywedais, “Rhaid i chi gael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd dych chi'n eu haddoli. Stopiwch lygru'ch hunain gydag eilunod yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.”

8. Ond roedden nhw'n tynnu'n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â'i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw'n dal yn yr Aifft,

9. ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Roeddwn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft.

10. “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a'i harwain nhw i'r anialwch.

11. Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai'r rhai fyddai'n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn.

12. Dyma fi'n rhoi ‛Sabothau‛ iddyn nhw hefyd, i'w hatgoffa nhw o'r berthynas rhyngon ni. Roeddwn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi eu gwneud nhw'n wahanol, yn bobl sbesial i mi.

13. “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle; eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch!

14. Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20