Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:15-26 beibl.net 2015 (BNET)

15. Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i'n eu harwain nhw i'r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw – tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd!

16. Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel ron i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod!

17. Ac eto, bod yn garedig atyn nhw wnes i. Wnes i ddim eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch.

18. “‘Dyma fi'n dweud wrth eu plant yn yr anialwch: “Peidiwch byw yr un fath â'ch rhieni. Peidiwch dilyn eu ffyrdd nhw, a llygru eich hunain yn addoli eu heilun-dduwiau.

19. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Dw i eisiau i chi fyw fel dw i'n dweud a chadw fy rheolau i.

20. A dw i eisiau i chi gadw'r dyddiau Saboth yn sbesial, i'ch atgoffa chi o'r berthynas sydd rhyngon ni. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

21. “‘Ond dyma'r plant yn gwrthryfela yn fy erbyn i hefyd. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn.) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle, yn yr anialwch.

22. Ond dyma fi'n dal yn ôl. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft.

23. Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud y byddwn i'n eu gyrru nhw ar chwâl i'r cenhedloedd, a'u gwasgaru nhw drwy'r gwledydd i gyd.

24. Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel roeddwn i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod!

25. Felly dyma fi'n gadael iddyn nhw ddilyn rheolau oedd ddim yn dda iddyn nhw a canllawiau oedd ddim yn rhoi bywyd go iawn.

26. Dyma fi'n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda'r rhoddion roedden nhw'n ei cyflwyno i'w duwiau – roedden nhw'n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Ro'n i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy'r ARGLWYDD.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20