1. Roedd hi'r seithfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r pumed mis. A dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ac yn eistedd o'm blaen i a gofyn am arweiniad gan yr ARGLWYDD.
2. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
3. “Ddyn, dywed wrth arweinwyr Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi eisiau i mi roi arweiniad i chi, ydych chi? Wel, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gewch chi ddim arweiniad gen i, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’
4. “Ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn, a'u cael nhw i wynebu'r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid?
5. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a cyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.”
6. Dyma fi'n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a'u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi ei dewis yn arbennig ar eu cyfer. Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd!