Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 19:7-14 beibl.net 2015 (BNET)

7. Cymerodd y gweddwon iddo'i huna dinistrio'r trefi'n llwyr.Pan oedd yn rhuo,roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad.

8. Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpasi ymosod arno.Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drostoa'i ddal yn eu trap;

9. rhoi coler a bachyn am ei wddf,a mynd ag e at frenin Babilon.Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carcharfel bod ei ruo i'w glywed ddim mwyar fynyddoedd Israel.

10. Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hirionwedi ei phlannu ar lan y dŵr.Roedd ei changhennau yn llawn ffrwytham fod digon o ddŵr iddi.

11. Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryfi wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw.Tyfodd yn uchel at y cymylau;roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.

12. Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidda'i thaflu ar lawr.Chwythodd gwynt poeth y dwyraina chrino ei changhennau ffrwythlon.Llosgodd yn y tân.

13. Bellach mae wedi ei phlannu yn yr anialwchmewn tir sych, cras.

14. Lledodd y tân o'i changen grefa'i llosgi o'i gwraidd i'w brigau.Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôli wneud teyrnwialen ohoni.’Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 19