1. “Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel.
2. Dywed fel hyn:‘Sut un oedd dy fam di?Onid llewes gyda'r llewod,yn gorwedd gyda'r llewod ifancac yn magu ei chenawon?
3. Magodd un o'i chenawon,a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.
4. Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano,a chafodd ei ddal yn eu trap.Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachauyn gaeth i'r Aifft.
5. Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,a bod ei gobaith wedi chwalu,cymerodd un arall o'i chenawon,a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.
6. Cerddodd yng nghanol y llewod,wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.
7. Cymerodd y gweddwon iddo'i huna dinistrio'r trefi'n llwyr.Pan oedd yn rhuo,roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad.
8. Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpasi ymosod arno.Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drostoa'i ddal yn eu trap;