Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 19:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel.

2. Dywed fel hyn:‘Sut un oedd dy fam di?Onid llewes gyda'r llewod,yn gorwedd gyda'r llewod ifancac yn magu ei chenawon?

3. Magodd un o'i chenawon,a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.

4. Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano,a chafodd ei ddal yn eu trap.Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachauyn gaeth i'r Aifft.

5. Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,a bod ei gobaith wedi chwalu,cymerodd un arall o'i chenawon,a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.

6. Cerddodd yng nghanol y llewod,wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 19