Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Mae e'n gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cadw fy rheolau i. Dyna beth ydy byw bywyd da! Bydd person felly yn sicr o gael byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

10. “Cymrwch wedyn fod mab y dyn yna'n troi allan i fod yn lleidr ac yn llofrudd. Mae'n gwneud y pethau drwg yma i gyd

11. (pethau wnaeth ei dad ddim un ohonyn nhw): Mae'n mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd ac yn bwyta o'r aberthau. Mae'n cysgu gyda gwraig rhywun arall.

12. Mae'n cam-drin pobl dlawd sydd mewn angen ac yn dwyn. Dydy e ddim yn talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes. Mae'n addoli eilun-dduwiau, ac yn gwneud pethau cwbl ffiaidd.

13. Ac mae'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Fydd e'n cael byw? Na, dim o gwbl! Rhaid iddo farw am wneud pethau mor ffiaidd. Arno fe fydd y bai.

14. “Wedyn cymrwch fod hwnnw'n cael mab, sy'n gweld yr holl ddrwg mae ei dad yn ei wneud ac yn penderfynu peidio dilyn ei esiampl.

15. Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall.

16. Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth.

17. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Mae'n cadw fy rheolau i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.“Fydd y dyn yma ddim yn cael ei gosbi am beth wnaeth ei dad! Bydd e'n cael byw.

18. Ond bydd ei dad, oedd yn gorthrymu pobl a chymryd mantais annheg ohonyn nhw, yn dwyn eiddo ei gydwladwyr a gwneud pob math o bethau drwg eraill, yn cael ei gosbi. Bydd rhaid iddo farw.

19. ‘Beth?’ meddech chi, ‘Ydy'r mab ddim yn dioddef o gwbl am yr holl ddrwg wnaeth ei dad?’ Na, pan mae'r mab yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, yn cadw fy rheolau a gwneud beth dw i'n ddweud, bydd e'n cael byw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18