Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:24-32 beibl.net 2015 (BNET)

24. Ond wedyn, ar y llaw arall, os bydd person da yn stopio gwneud beth sy'n iawn ac yn dechrau gwneud yr holl bethau ffiaidd mae pobl ddrwg yn eu gwneud, fydd e'n cael byw? Na fydd. Bydda i'n anghofio'r holl bethau da wnaeth e. Am ei fod e wedi bod yn anffyddlon i mi a pechu yn fy erbyn i, bydd rhaid iddo farw.

25. “‘Ond dydy hynny ddim yn iawn!’ meddech chi.“Gwrandwch, bobl Israel: Ydych chi'n dweud fy mod i ddim yn gwneud y peth iawn? Onid chi sydd ddim yn gwneud y peth iawn?

26. Pan mae pobl dda yn stopio gwneud beth sy'n iawn, ac yn dechrau byw bywyd drwg, bydd rhaid iddyn nhw farw. Byddan nhw'n marw o achos y pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud.

27. A pan mae person drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw, ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, bydd e'n achub ei fywyd.

28. Am ei fod wedi meddwl am y peth a penderfynu stopio ymddwyn felly bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw.

29. “Ond mae pobl Israel yn dal i gwyno, ‘Dydy hynny ddim yn iawn!’ Ai fi ydy'r un sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn, bobl Israel? Onid chi ydy'r rhai sydd ddim yn gwneud y peth iawn?

30. “Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail sut ydych chi wedi byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Trowch gefn ar eich gwrthryfel, a fydd eich pechod ddim yn eich dinistrio chi.

31. Stopiwch dynnu'n groes i mi, a chewch galon newydd ac ysbryd newydd! Pam ddylech chi ddewis marw, bobl Israel?

32. Dw i ddim yn mwynhau gweld unrhyw un yn marw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Felly trowch gefn ar y cwbl, a cewch fyw!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18