Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Wedyn cymrwch fod hwnnw'n cael mab, sy'n gweld yr holl ddrwg mae ei dad yn ei wneud ac yn penderfynu peidio dilyn ei esiampl.

15. Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall.

16. Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth.

17. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Mae'n cadw fy rheolau i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.“Fydd y dyn yma ddim yn cael ei gosbi am beth wnaeth ei dad! Bydd e'n cael byw.

18. Ond bydd ei dad, oedd yn gorthrymu pobl a chymryd mantais annheg ohonyn nhw, yn dwyn eiddo ei gydwladwyr a gwneud pob math o bethau drwg eraill, yn cael ei gosbi. Bydd rhaid iddo farw.

19. ‘Beth?’ meddech chi, ‘Ydy'r mab ddim yn dioddef o gwbl am yr holl ddrwg wnaeth ei dad?’ Na, pan mae'r mab yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, yn cadw fy rheolau a gwneud beth dw i'n ddweud, bydd e'n cael byw.

20. Yr un sy'n pechu fydd yn marw. Fydd mab ddim yn dioddef am y drwg wnaeth ei dad, a fydd tad ddim yn dioddef am ddrygioni ei fab. Bydd y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu gwobr, a bydd pobl ddrwg yn cael eu cosbi am beth wnaethon nhw.

21. “Ond os ydy rhywun sydd wedi gwneud pethau drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg a gwrando arna i, bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw.

22. Fydda i ddim yn cadw rhestr o'i holl bechodau e. Am ei fod e wedi dechrau gwneud beth sy'n iawn bydd e'n cael byw.

23. “Ydw i'n mwynhau gweld pobl ddrwg yn marw?” meddai'r ARGLWYDD. “Wrth gwrs ddim! Byddai'n well gen i eu gweld nhw'n troi cefn ar yr holl ddrwg a chael byw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18