Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Beth ydy'r dywediad yna dych chi'n ei ddefnyddio o hyd am wlad Israel,‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion,ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’?

3. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd y dywediad yma ddim i'w glywed yn Israel eto.

4. Mae pob unigolyn yn atebol i mi – y rhieni a'r plant fel ei gilydd. Mae pob person yn marw am ei bechod ei hun.

5. “Meddyliwch am rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn ymddwyn yn gyfiawn ac yn deg.

6. Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall, nac yn cael rhyw gyda gwraig pan mae'r misglwyf arni.

7. Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth.

8. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18