8. Roedd wedi ei phlannu mewn pridd daar lan digonedd o ddŵr,i'w changhennau leduac i ffrwyth dyfu arni,yn winwydden hardd.’
9. Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:‘Fydd hi'n llwyddo?Na – bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd,yn tynnu ei ffrwyth oddi arni,a'i gadael i bydru.Bydd ei dail ir yn gwywo.Fydd dim angen byddin fawr grefi dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
10. Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo?Na – bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythua bydd hi'n crino'n llwyr.Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’”
11. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
12. “Dywed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon.
13. Wedyn dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl fawr y wlad.
14. Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb.
15. Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi?