Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 17:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb.

15. Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi?

16. Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e yn y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu.

17. Fydd y Pharo gyda'i fyddin fawr a'i holl rym milwrol ddim help o gwbl pan fydd Babilon yn ymosod ar Jerwsalem eto ac yn codi rampiau a thyrau gwarchae yn ei herbyn. Bydd lot fawr o bobl yn cael eu lladd.

18. Roedd e wedi gwneud cytundeb ar lw ac yna ei dorri; addo bod yn ufudd ac yna torri ei air. Gwylia di, fydd e ddim yn dianc!’

19. “Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o'm blaen i.

20. Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i.

21. Bydd ei filwyr gorau yn cael eu lladd yn y rhyfel, a'r gweddill yn cael eu gwasgaru i bob cyfeiriad. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dweud beth sydd i ddod.’

22. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel.

23. Bydda i'n ei blannu ar fynydd uchaf Israel. Bydd yn tyfu'n goeden gedrwydd hardd ffrwythlon, a bydd adar o bob math yn nythu ynddi ac yn cysgodi dan ei changhennau.

24. Bydd pob coeden yng nghefn gwlad yn cydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Fi sy'n gwneud y goeden fawr yn fach a'r goeden fach yn fawr. Fi sy'n gwneud i goeden ir grino, ac i goeden farw flaguro eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 17