49. Drwg dy chwaer Sodom oedd ei bod hi'n mwynhau byw'n foethus, yn gorfwyta, yn gwbl ddi-hid ac yn gwneud dim i helpu pobl dlawd oedd mewn angen.
50. Roedden nhw'n snobyddlyd, ac yn gwneud peth cwbl ffiaidd. Felly dyma fi'n cael gwared â nhw, fel rwyt ti'n gwybod yn iawn.
51. Ac wedyn Samaria – wnaeth hi ddim hanner y drwg rwyt ti wedi ei wneud! Yn wir, mae dy chwiorydd yn edrych yn reit ddiniwed o'i cymharu â ti!
52. Dylet ti fod â chywilydd ohonot ti dy hun. Mae dy ymddygiad di wedi bod yn erchyll; rwyt ti wedi gwneud iddyn nhw edrych yn dda! Dylai'r fath beth godi cywilydd arnat ti!
53. “‘Ryw ddydd dw i'n mynd i adfer eu sefyllfa nhw, Sodom a Samaria. A bydda i'n adfer dy sefyllfa dithau hefyd,
54. i ti deimlo cywilydd go iawn am beth wnest ti, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n eitha da!
55. Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle blaenorol. A thithau yr un fath.
56. Roedd Sodom yn destun sbort gen ti pan oedd pethau'n mynd yn dda arnat ti,
57. cyn i dy ddrygioni di ddod i'r golwg. Bellach ti dy hun ydy'r testun sbort, gan bobl Edom a'i chymdogion y Philistiaid a phawb arall o dy gwmpas di.
58. Rhaid i ti dderbyn y canlyniadau am dy ymddygiad anweddus a'r holl bethau ffiaidd ti wedi eu gwneud, meddai'r ARGLWYDD.
59. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu am gymryd dy lw yn ysgafn a torri'r ymrwymiad oedd rhyngon ni?
60. Na, dw i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda ti pan oeddet ti'n ifanc, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda ti fydd yn para am byth.