Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:25-37 beibl.net 2015 (BNET)

25. Ti'n codi dy stondin a chywilyddio dy hun drwy ledu dy goesau i bwy bynnag oedd yn pasio heibio!

26. Roeddet ti'n puteinio gyda dy gymdogion yr Eifftiaid, oedd bob amser yn barod i gael rhyw. Roeddet ti'n mynd o ddrwg i waeth ac yn fy ngwylltio i'n lân.

27. Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed!

28. “‘Wedyn dyma ti'n rhoi dy hun i'r Asyriaid! Doeddet ti byth yn fodlon; byth wedi cael digon. Roedd gen ti eisiau mwy o hyd!

29. A dyma roi dy hun i wlad y masnachwyr, sef Babilon. Ond doedden nhw ddim yn dy fodloni di chwaith.

30. “‘Mae'n dangos mor wan wyt ti,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Doedd gen ti ddim cywilydd o gwbl, fel putain

31. yn codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd. Ond yn wahanol i buteiniaid eraill, doeddet ti ddim yn derbyn unrhyw dâl!

32. “‘Gwraig anffyddlon wyt ti! Mae'n well gen ti roi dy hun i ddynion eraill nac i dy ŵr dy hun!

33. Mae puteiniaid go iawn yn codi arian am eu gwasanaeth, ond dim ti! Na, rwyt ti'n rhoi anrhegion i dy gariadon ac yn cynnig tâl er mwyn eu perswadio nhw i ddod o bob cyfeiriad i dy gymryd di!

34. Ti ddim byd tebyg i'r puteiniaid sy'n cael eu talu am ryw. Does neb wir dy eisiau di! Dwyt ti ddim yn cael dy dalu; rhaid i ti dalu iddyn nhw! Mae'r peth yn hollol groes i'r arfer!

35. “‘Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD i ti, butain –

36. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rwyt ti wedi tywallt dy haelioni rhywiol yn ddi-stop, a tynnu dy ddillad i ddangos popeth i dy gariadon. Ti wedi mynd ar ôl eilun-dduwiau ffiaidd, ac wedi lladd dy blant a'i haberthu iddyn nhw.

37. Felly gwylia di beth dw i'n mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i gasglu dy gariadon di at ei gilydd – y rhai roeddet ti'n eu caru a'r rhai roeddet ti'n eu casáu. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o dy gwmpas di, ac yna dy stripio di'n noeth o'u blaenau nhw, a byddan nhw'n gweld dy rannau preifat.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16