11. Rhoddais dlysau a gemwaith i ti – breichledau ar dy fraich a chadwyn am dy wddf,
12. modrwy i dy drwyn, clustdlysau, a choron hardd ar dy ben.
13. Roeddet wedi dy harddu gydag arian ac aur, yn gwisgo dillad o liain main drud, sidan a defnydd wedi ei frodio'n hardd. Roeddet ti'n bwyta'r bwyd gorau, wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Roeddet ti'n hynod o hardd, ac yn edrych fel brenhines!
14. Roeddet ti'n enwog drwy'r byd am dy harddwch. Roeddet ti'n berffaith, am fy mod i wedi rhoi popeth i dy wneud di mor hardd,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
15. “‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di.
16. Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel!
17. A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i.