Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 14:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. “‘A pan fydd proffwyd yn cael ei dwyllo i roi neges sydd ddim yn wir, bydda i, yr ARGLWYDD, yn gwneud ffŵl ohono. Bydda i'n ei daro a'i daflu allan o gymdeithas pobl Israel.

10. Bydd y ddau ohonyn nhw'n cael eu cosbi am eu pechod – y proffwyd, a'r un oedd wedi mynd ato i ofyn am arweiniad.

11. Wedyn fydd pobl Israel ddim yn crwydro oddi wrtho i, a llygru eu hunain drwy wrthryfela yn fy erbyn i. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

12. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

13. “Ddyn, os ydy gwlad yn pechu yn fy erbyn i drwy fod yn anffyddlon, a finnau wedyn yn eu taro nhw drwy wneud bwyd yn brin, a peri i newyn ladd pobl ac anifeiliaid,

14. hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno, fyddai eu daioni nhw yn achub neb ond nhw eu hunain.” Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

15. “Neu petawn i'n gadael i anifeiliaid gwylltion fynd drwy'r wlad yn lladd y plant i gyd, a bod neb yn gallu teithio drwy'r wlad am ei bod hi'n rhy beryglus.

16. Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Byddai'r wlad yn cael ei difetha'n llwyr, a fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

17. “Neu petawn i'n gadael i fyddin ymosod ar y wlad, a dweud, ‘Mae cleddyf y gelyn i gael lladd pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad i gyd!’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 14