14. Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
15. Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd –
16. sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau'n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’
17. “Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy'n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw,