Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 13:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy'n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a'i alw'n ‛broffwydoliaeth‛. Dywed wrthyn nhw,

3. ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae'r proffwydi yna sy'n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i'n ei ddangos sy'n digwydd go iawn!

4. Israel, mae dy broffwydi fel siacaliaid yng nghanol adfeilion!

5. Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio'r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.

6. Dŷn nhw'n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw'n disgwyl i'w geiriau ddod yn wir!

7. Ond ffantasi pur a chelwydd ydy honni, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” pan dw i ddim wedi dweud y fath beth.

8. “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi, achos dych chi wedi bod yn siarad nonsens ac yn cyhoeddi celwydd.

9. Dw i'n mynd i daro'r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy'n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri'n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 13