Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 13:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy'n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a'i alw'n ‛broffwydoliaeth‛. Dywed wrthyn nhw,

3. ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae'r proffwydi yna sy'n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i'n ei ddangos sy'n digwydd go iawn!

4. Israel, mae dy broffwydi fel siacaliaid yng nghanol adfeilion!

5. Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio'r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.

6. Dŷn nhw'n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw'n disgwyl i'w geiriau ddod yn wir!

7. Ond ffantasi pur a chelwydd ydy honni, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” pan dw i ddim wedi dweud y fath beth.

8. “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi, achos dych chi wedi bod yn siarad nonsens ac yn cyhoeddi celwydd.

9. Dw i'n mynd i daro'r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy'n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri'n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

10. “Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau'n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi'n saffach!

11. Dywed wrth y rhai sy'n peintio: ‘Pan ddaw glaw trwm a chenllysg a gwynt stormus,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 13