Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:

15. “Ddyn, mae'r bobl sy'n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi eu cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw'n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae'r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’

16. “Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi eu hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'i chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’

17. “Dywed fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i'n mynd i'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i'n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’

18. “Byddan nhw'n dod yn ôl ac yn cael gwared â'r holl eilunod a'r pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud yma.

19. Bydda i'n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i'n cael gwared â'r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw.

20. Byddan nhw'n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw.

21. Ond am y bobl hynny sy'n addoli'r eilunod ac yn mynd trwy'r defodau ffiaidd yma, bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.

22. Yna dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.

23. Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i'r dwyrain o'r ddinas.

24. Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11