Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ysbryd yn fy nghodi ac yn mynd â fi at giât ddwyreiniol teml yr ARGLWYDD. Yno, wrth y fynedfa i'r giât, dyma fi'n gweld dau ddeg pump o ddynion. Yn eu plith roedd Jaasaneia fab Asswr a Plateia fab Benaia, oedd yn arweinwyr sifil.

2. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, y dynion yma sydd yn cynllwynio drwg ac yn rhoi cyngor gwael i bobl y ddinas.

3. ‘Fydd dim angen adeiladu tai yn y dyfodol agos,’ medden nhw. ‘Y crochan ydy'r ddinas yma, a ni ydy'r cig sy'n cael aros ynddo.’

4. Felly, proffwyda yn eu herbyn nhw! Gad iddyn nhw glywed y neges yn glir, ddyn!”

5. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi'n ddweud, ie? Wel, dw i'n gwybod beth sy'n mynd trwy eich meddyliau chi!

6. Chi sy'n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’

7. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi eu taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan!

8. Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, dw i'n mynd i wneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

9. ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall.

10. Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

11. Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i'n eich barnu chi ar dir Israel,

12. a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’”

13. Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”

14. Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 11