Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Am bod ganddyn nhw bedwar wyneb doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd.

10. Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn.

11. Roedden nhw'n dal eu hadenydd ar led – roedd dwy aden gan bob un yn cyffwrdd adenydd y creaduriaid oedd bob ochr iddyn nhw, a'r ddwy aden arall yn gorchuddio eu cyrff.

12. Roedden nhw'n mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd – yn syth yn eu blaenau, heb droi o gwbl.

13. Yn eu canol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel marwor yn llosgi, ac roedd y tân fel ffaglau yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y creaduriaid byw. Roedd yn llosgi'n danbaid ac roedd gwreichion yn saethu allan ohono i bob cyfeiriad,

14. ac roedd y creaduriaid byw eu hunain yn symud yn ôl ac ymlaen fel fflachiadau mellt.

15. Wedyn sylwais fod olwyn ar lawr wrth ymyl pob un o'r pedwar creadur.

16. Roedd yr olwynion yn sgleinio fel meini saffir. Roedd pob olwyn yr un fath, gydag olwyn arall tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr.

17. Felly pan oedden nhw'n symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi.

18. Roedd ymylon yr olwynion yn anferth, wedi eu gorchuddio gyda llygaid.

19. Pan oedd y creaduriaid byw yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y creaduriaid yn codi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn codi hefyd.

20. Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd.

21. Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1