Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. Offeiriad ydw i, Eseciel fab Bwsi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar yng ngwlad Babilon. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i yno!

4. Wrth i mi edrych, ron i'n gweld storm yn dod o'r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o'i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel.

5. Yna o'i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i'r golwg. Roedden nhw'n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl,

6. ond roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair adain.

7. Roedden nhw'n sefyll i fyny'n syth fel pobl, ond carnau llo oedd eu traed. Ac roedden nhw'n gloywi fel pres wedi ei sgleinio.

8. Roedd ganddyn nhw freichiau a dwylo dynol o dan eu hadenydd, ac roedd eu hadenydd nhw'n cyffwrdd ei gilydd.

9. Am bod ganddyn nhw bedwar wyneb doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd.

10. Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn.

11. Roedden nhw'n dal eu hadenydd ar led – roedd dwy aden gan bob un yn cyffwrdd adenydd y creaduriaid oedd bob ochr iddyn nhw, a'r ddwy aden arall yn gorchuddio eu cyrff.

12. Roedden nhw'n mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd – yn syth yn eu blaenau, heb droi o gwbl.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1