Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:20-28 beibl.net 2015 (BNET)

20. Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd.

21. Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.

22. Uwch ben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi ei ledu fel cromen uwch eu pennau.

23. Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda'i hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd.

24. Pan oedd y creaduriaid yn hedfan, roeddwn i'n clywed sŵn eu hadenydd nhw – sŵn tebyg i raeadr, neu lais y Duw mawr sy'n rheoli popeth, neu fyddin enfawr yn martsio. Wedyn pan oedden nhw'n stopio roedden nhw'n rhoi eu hadenydd i lawr.

25. Dyma nhw'n stopio, a chlywais lais yn dod o'r llwyfan oedd uwch eu pennau.

26. Uwch ben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi ei gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol.

27. O'i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o'i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o'i gwmpas.

28. Roedd mor hardd a'r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio.Dyma fi'n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1