Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 5:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti;gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud.

2. Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn,ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.

3. Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl,a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew;

4. Ond mae hi'n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod,ac yn finiog fel cleddyf.

5. Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth;mae ei chamau yn arwain i'r bedd.

6. Dydy hi'n gwybod dim am fywyd go iawn;mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny.

7. Felly, fy mab, gwrando'n ofalus arna i,a paid troi cefn ar beth dw i'n ddweud.

8. Cadw draw oddi wrthi hi!Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,

9. rhag i ti golli pob hunan-barch,ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.

10. Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di,ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 5