4. Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i,“Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud;Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da.
5. Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn;paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud.
6. Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hi'n dy warchod di;os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di.
7. Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall!Petai'n costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall.
8. Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di;cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti.
9. Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben;coron fydd yn dy anrhydeddu di.”
10. Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud,a byddi di'n cael byw yn hir.
11. Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth;ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn.
12. Byddi'n cerdded yn dy flaen yn hyderus;byddi'n rhedeg heb faglu o gwbl.
13. Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael.Cadw'r cwbl yn saff – mae'n rhoi bywyd i ti!
14. Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg;paid mynd yr un ffordd â nhw.
15. Cadw draw! Paid mynd yn agos!Tro rownd a mynd i'r cyfeiriad arall!