1. Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam:
2. O fy mab!O blentyn annwyl fy nghroth!Y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw!
3. Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched,a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4. O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin,ac arweinwyr ddim ysu am gwrw,
5. rhag iddyn nhw yfed ag anghofio'r deddfau,a sathru ar hawliau'r tlodion.