Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 30:22-33 beibl.net 2015 (BNET)

22. Caethwas yn cael ei wneud yn frenin;ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;

23. gwraig heb ei charu yn priodi;a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.

24. Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond sy'n ddoeth dros ben:

25. Morgrug, sy'n greaduriaid bach gwan,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf.

26. Brochod, sydd ddim yn gryf chwaith,ond sy'n gwneud eu cartrefi yn y creigiau.

27. Locustiaid, sydd heb frenin i'w rheoli,ond sy'n mynd allan mewn rhengoedd trefnus.

28. A madfallod – gelli eu dal yn dy law,ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd!

29. Mae tri peth sy'n cerdded yn urddasol,pedwar sy'n symud mor hardd:

30. Y llew, y cryfaf o'r anifeiliaid,sy'n ffoi oddi wrth ddim byd.

31. Ceiliog yn torsythu, bwch gafr,a brenin yn arwain ei bobl.

32. Os wyt ti wedi actio'r ffŵl wrth frolio,neu wedi bod yn cynllwynio drwg,dal dy dafod!

33. Fel mae corddi llaeth yn gwneud menyn,a taro'r trwyn yn tynnu gwaed,mae gwylltio pobl yn arwain i wrthdaro.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 30