Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 30:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mae gan y gele ddwy ferch,“Rho fwy!” a “Rho fwy!”Mae tri peth sydd byth yn fodlon;pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”:

16. Y bedd,croth ddiffrwyth,tir sydd angen dŵr,a thân –dydy'r rhain byth yn dweud “Digon!”

17. Llygad sy'n gwneud sbort ar dadac yn malio dim am wrando ar mam –bydd hi'n cael ei thynnu allan gan gigfrain,a'i bwyta gan y fwltur.

18. Mae tri peth y tu hwnt i mi;pedwar fydda i byth yn eu darganfod:

19. Ffordd yr eryr drwy'r awyr;ffordd y neidr dros graig;llwybr llong yn hwylio'r moroedd;a llwybr cariad dyn a merch.

20. Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy:Bwyta, sychu ei cheg,a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.”

21. Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu,pedwar peth all hi mo'i ddiodde:

22. Caethwas yn cael ei wneud yn frenin;ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;

23. gwraig heb ei charu yn priodi;a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.

24. Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond sy'n ddoeth dros ben:

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 30