Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 30:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae yna bobl sy'n melltithio eu tadau,ac sydd ddim yn fendith i'w mamau.

12. Mae yna bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n dda,ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod.

13. Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd;maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na pawb arall!

14. Mae yna bobl sydd a dannedd fel cleddyfau,a'u brathiad fel cyllyll.Maen nhw'n llarpio pobl dlawd y tir,a'r rhai hynny sydd mewn angen.

15. Mae gan y gele ddwy ferch,“Rho fwy!” a “Rho fwy!”Mae tri peth sydd byth yn fodlon;pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”:

16. Y bedd,croth ddiffrwyth,tir sydd angen dŵr,a thân –dydy'r rhain byth yn dweud “Digon!”

17. Llygad sy'n gwneud sbort ar dadac yn malio dim am wrando ar mam –bydd hi'n cael ei thynnu allan gan gigfrain,a'i bwyta gan y fwltur.

18. Mae tri peth y tu hwnt i mi;pedwar fydda i byth yn eu darganfod:

19. Ffordd yr eryr drwy'r awyr;ffordd y neidr dros graig;llwybr llong yn hwylio'r moroedd;a llwybr cariad dyn a merch.

20. Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy:Bwyta, sychu ei cheg,a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.”

21. Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu,pedwar peth all hi mo'i ddiodde:

22. Caethwas yn cael ei wneud yn frenin;ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 30