1. Geiriau Agwr fab Iace, o Massa.Dyma neges y dyn:Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy'r gallu ddim gen i.
2. Dw i'n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol!Does gen i ddim sens.
3. Dw i heb ddysgu i fod yn ddoeth,a dw i'n gwybod dim am yr Un Sanctaidd.
4. Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto?Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt?Pwy sydd wedi gallu lapio'r moroedd mewn mantell?Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall?Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – dywed os wyt ti'n gwybod.
5. Mae pob un o eiriau Duw wedi eu profi.Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio.
6. Paid ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd.
7. Dw i'n gofyn am ddau beth gen ti –rho nhw i mi cyn i mi farw: