Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 30:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Geiriau Agwr fab Iace, o Massa.Dyma neges y dyn:Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy'r gallu ddim gen i.

2. Dw i'n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol!Does gen i ddim sens.

3. Dw i heb ddysgu i fod yn ddoeth,a dw i'n gwybod dim am yr Un Sanctaidd.

4. Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto?Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt?Pwy sydd wedi gallu lapio'r moroedd mewn mantell?Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall?Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – dywed os wyt ti'n gwybod.

5. Mae pob un o eiriau Duw wedi eu profi.Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio.

6. Paid ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd.

7. Dw i'n gofyn am ddau beth gen ti –rho nhw i mi cyn i mi farw:

8. Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo;ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi,ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd.

9. Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i,ac yna dy wrthod di, a dweud,“Pwy ydy'r ARGLWYDD?”A cadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd,a rhoi enw drwg i Dduw.

10. Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr,rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu'r pris.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 30