Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 3:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Trystia'r ARGLWYDD yn llwyr;paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.

6. Gwrando arno fe bob amser,a bydd e'n dangos y ffordd iawn i ti.

7. Paid meddwl dy fod ti'n glyfar;Dangos barch at yr ARGLWYDDa throi dy gefn ar ddrygioni.

8. Bydd byw felly yn cadw dy gorff yn iach,ac yn gwneud byd o les i ti.

9. Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu'r ARGLWYDD;rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe.

10. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn,a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin.

11. Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,na thorri dy galon pan mae e'n dy gywiro di.

12. Achos mae'r ARGLWYDD yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru,fel mae tad yn cosbi'r plentyn mae mor falch ohono.

13. Y fath fendith sydd i'r sawl sy'n darganfod doethineb,ac yn llwyddo i ddeall.

14. Mae'n gwneud mwy o elw nag arian,ac yn talu'n ôl lawer mwy nag aur.

15. Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau;does dim trysor tebyg iddi.

16. Mae bywyd llawn yn ei llaw dde,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 3