Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 3:21-34 beibl.net 2015 (BNET)

21. Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a'r ffordd iawn;dal dy afael ynddyn nhw.

22. Byddan nhw'n rhoi bywyd i tiac yn addurn hardd am dy wddf.

23. Yna byddi'n cerdded trwy fywydyn saff a heb faglu.

24. Pan fyddi'n gorwedd i lawr, fydd dim byd i'w ofni;byddi'n gorwedd ac yn gallu cysgu'n braf.

25. Fydd gen ti ddim ofn yr annisgwyl,na'r drychineb sy'n dod ar bobl ddrwg.

26. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi hyder i ti;bydd e'n dy gadw di rhag syrthio i drap.

27. Pan mae gen ti'r cyfle i helpu rhywun,paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.

28. Paid dweud wrth rywun, “Tyrd yn ôl rywbryd eto;bydda i'n dy helpu di yfory,” a tithau'n gallu gwneud hynny'n syth.

29. Paid meddwl gwneud drwg i rywunpan mae'r person yna'n dy drystio di.

30. Paid codi ffrae gyda rhywun am ddim rheswm,ac yntau heb wneud dim drwg i ti.

31. Paid bod yn genfigennus o rywun sy'n cam-drin pobl eraill,na dilyn ei esiampl.

32. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo,ond mae ganddo berthynas glos gyda'r rhai sy'n onest.

33. Mae melltith yr ARGLWYDD ar dai pobl ddrwg,ond mae e'n bendithio cartrefi'r rhai sy'n byw'n iawn.

34. Mae e'n dirmygu'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill,ond yn hael at y rhai gostyngedig.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 3