1. Fy mab, paid anghofio beth dw i'n ei ddysgu i ti;cadw'r pethau dw i'n eu gorchymyn yn dy galon.
2. Byddi'n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da;bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti.
3. Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser;clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf,ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon.
4. Yna byddi'n cael dy dderbyn, ac yn cael enw dagan Dduw a chan bobl eraill.
5. Trystia'r ARGLWYDD yn llwyr;paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.
6. Gwrando arno fe bob amser,a bydd e'n dangos y ffordd iawn i ti.
7. Paid meddwl dy fod ti'n glyfar;Dangos barch at yr ARGLWYDDa throi dy gefn ar ddrygioni.
8. Bydd byw felly yn cadw dy gorff yn iach,ac yn gwneud byd o les i ti.
9. Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu'r ARGLWYDD;rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe.
10. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn,a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin.